Cyfoethogi Iaith 1 - Yr Acen Grom (1ECYM6005W)
Pam mae to ar ben tŷ ond nid ar ben to?
Os na wyddoch chi dyma’r cwrs i chi!
Cyfoethogi Iaith 2 - Treiglad Meddal (1ECYM6105W)
Dyma dreiglad sy’n ben tost i lawer. Rhowch ddiwedd ar y gwewyr meddwl gyda’r cwrs sydyn hwn!
Cyfoethogi Iaith 3 - Dyblu 'N' ac 'R' (1ECYM6205W)
Anibynol, anibynnol neu annibynnol? Fydd dim angen crafu pen ar ôl gwneud y cwrs byr hwn.
Cyfoethogi Iaith 4 - Arddodiaid (1ECYM6305W)
Tybed faint ohonoch sy’n poeni am y geiriau bychain hyn wrth ysgrifennu? Byddwch yn feistr arnynt ymhen ychydig!
Gloywi Iaith 1 (1ECYM7010W)
Cyfle i ymarfer ysgrifennu’r Gymraeg a chael cyngor a chymorth personol gan diwtor.
Gloywi Iaith 2 (1ECYM7110W)
Mwy o ymarferion a hwb pellach i’ch hyder gyda chymorth eich tiwtor personol.
Mynegiant (1ECYM1120W)
Dyma fentro gyda chystrawennau mwy cymhleth, amrywiol gyweiriau ieithyddol a phriod-ddulliau. Bydd cymorth a chefnogaeth eich tiwtor personol yn hybu eich hyder.
Blas ar Gyfieithu (1ECYM3020W)
Cwrs byr a fydd yn rhoi cyfle i chi gael blas ar gyfieithu mewn amrywiol gyweiriau. Os yw cyfieithu at eich dant, gallwch symud ymlaen i ddilyn cyrsiau cyfieithu uwch yr adran.