Dewch i roi tro ar is-deitlo yn un o brif ganolfannau is-deitlo Prydain. Dysgwch y sgiliau ieithyddol a thechnegol sydd eu hangen i gynhyrchu is-deitlau i safon darlledu. Ewch ymlaen i ddilyn Tystysgrif Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan / S/4C mewn Is-Deitlo – cymhwyster proffesiynol unigryw.
Mae uned is-deitlo Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn un o brif ganolfannau is-deitlo Prydain. Sefydlwyd y ganolfan gyda chefnogaeth S/4C gyda’r bwriad o hyfforddi is-deitlwyr proffesiynol a hyrwyddo’u sgiliau yn y maes. Byddwch yn derbyn hyfforddiant o safon uchel yn yr egwyddorion a’r sgiliau ieithyddol a thechnegol angenrheidiol ar gyfer is-deitlo o safon darlledu. Bydd eich gwaith cwrs yn cael ei asesu’n allanol gan S/4C ac yn arwain at gymhwyster is-deitlo proffesiynol unigryw, sef Tystysgrif Is-deitlo S/4C / Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.
Gallwch hefyd ddewis dilyn hyfforddiant mewn cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd fel rhan o’r graddau
Dyma ddwy radd newydd a chyffrous sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes is-deitlo a chyfieithu.
Mae Adran y Gymraeg hefyd yn cynnig cyrsiau gradd llawn ar-lein.
Dilynwch BA Cymraeg neu BA Astudiaethau Cymraeg ac ymunwch gyda’n graddedigion ar-lein llwyddiannus.
Am wybodaeth am ein rhaglenni BA, MA, MPhil, PhD cysylltwch ag Owen Thomas ar 01570 424864
neu drwy e-bost o.thomas@lamp.ac.uk