Yr arddodiad 'Am'

Mae rhai arddodiaid yn rhedeg i ddynodi person a rhif. Mae 'am' yn un ohonyn nhw. Dyma ffurfiau rhediadol 'am':

amdanaf i about me amdanon ni about us
amdanat ti about you amdanoch chi about you
amdano fe about him amdanyn nhw about them
amdani hi about her    

Mae rhai ffurfiau berfol yn cael eu dilyn gan am:

Meddwl am [to think about] Mae e'n meddwl amdani He is thinking about it/her
Poeni am [to worry about] Roedden nhw'n poeni amdani hi They were worried about her
Chwilio am [to search for] Roedd rhaid i mi chwilio amdano I had to search for him

Breuddwydio am [to dream about]

Breuddwydiaf amdanat ti heno I'll dream about you tonight
Cosbi am [to punish for] Cafodd e ei gosbi am ddwyn He was punished for stealing
Gofalu am [to care for] Pwy sy'n gofalu amdanyn nhw? Who is looking after them?
Sôn am [to mention] Gofiaist ti sôn am y parti? Did you remember to mention the party?
Pryderu am [to worry about] Bydd hi'n pryderu amdanon ni She will be worried about us

Ystyron 'am'

Mae gan y rhan fwyaf o arddodiaid fwy nag un ystyr. Dyma rai o ystyron mwyaf cyffredin 'am':

1. Gall olygu 'to want' a 'to intend'

Ydych chi am fynd yn gynnar? Do you want to go early?
Beth rydych chi am ei wneud? What do you intend doing?

2. Gall olygu 'at' wrth sôn am amser:

Daeth e am bedwar o'r gloch He came at four o'clock

3. Gall olygu 'for' wrth sôn am amser:

Buon ni'n dawnsio am dair awr We danced for three hours

4.Gall olygu 'on' wrth drafod dillad

Gwisgwch eich esgidiau amdanoch! Put your shoes on!

5. Gall olygu 'what...!'

am barti What a party!
am gwestiwn! What a question!

6. Gall olygu 'around'

Roedd gwregys fawr am ei chanol There was a big belt around her waist

7. Gall olygu 'because'

Am ei bod yn wlyb, aethon ni mewn tacsi Because it was wet we went in a taxi

 

Sylwch ar y dywediadau hyn sy'n cynnwys 'am'

am wn i as far as I know
am byth for ever
am ddim free
am unwaith for once
am y tro for the time being
cael hwyl am ben to make fun of
chwerthin am ben to laugh at