Annwyl

Nodyn Gramadegol

Wrth gyfarch ar ddechrau llythyr, bydd annwyl yn rhagflaenu'r enw ac yn peri treiglad meddal:

Annwyl Olygydd (Golygydd) Dear Editor
Annwyl Brifathro (Prifathro) Dear Headmaster
Annwyl Brif Weithredwr (Prif Weithredwr) Dear Chief Executive
Annwyl gyfaill (cyfaill) Dear colleague/friend

 

Noder

Ni threiglir enwau pobl:

Annwyl Dafydd
Dear Dafydd
Annwyl Catrin
Dear Catrin
Annwyl Guy
Dear Guy