Cymalau enwol

Yn dilyn berfau megis datgan, dweud, meddwl, honni, credu, cytuno, barnu, gwybod, gobeithio a ddewisir ar gyfer traethiedydd (T) mewn prif gymal, y mae'r cymal enwol sy'n dilyn yn sylweddoli'r Dibeniad (D).

Yn y cymal enwol, bydd y siaradwr yn ailadrodd rywbeth a ddywedwyd naill ai ganddo ef ei hun neu gan rywun arall, a hynny yn ei aralleiriad ei hun.
Mae amryw yn galw'r cymal enwol yn gymal ailadrodd:

Rydych chi'n gwybod
bod Bob yn byw yn Llanelli
T + G
D
You know that Bob lives in Llanelli
Cytunent
fod bywyd yn dda
T + G D
They agreed that life was good
   
Sylweddolodd / John / ei bod wedi ei brifo
T G D
John realised that he had hurt her

Ceir cymal enwol ailadrodd dibwyslais a chymal enwol ailadrodd pwyslais a chymal enwol o gwestiwn anuniongyrchol

Cymal enwol ailadrodd dibwyslais

Dibynna'r cyfluniad a ddewisir ar amser y ferf yn y prif gymal.

Pan yw traethiedydd y prif gymal a thraethiedydd y cymal enwol yn gyfamserol cyflwynir y cymal enwol gan bod:

Rwy'n credu bod pob un ohonynt yn wylo
I believe that every one of them is weeping
Cytunent fod yr arholiadau yn anodd
They agreed that the examinations were difficult
Gwn fod ei wraig yn gweithio yn Llundain
I know that his wife works in London
Credaf dy fod yn gwastraffu dy amser
I believe that you are wasting your time

 

Pan yw traethiedydd y cymal enwol yn ddyfodol o ran ei berthynas ag amser traethiedydd y prif gymal, cyflwynir y cymal enwol gan y(r) a ddilynir gan ferf rediadol. Ceir y o flaen cytsain, yr o flaen llafariad ac h-:

Rwy'n barnu yr hoffai'r gweithwyr orffen
It’s my opinion that the workmen would like to finish
Gwyddai Gwydion y byddai ei ewythr yn ei achub
Gwydion knew that his uncle would save him
Dywedodd y byddai'n galw yn ystod yr wythnos
He said that he would call during the week

 

Pan yw traethiedydd y cymal enwol yn orffennol o ran ei berthynas � thraethiedydd y prif gymal, gellir dewis un o'r cyfluniadau isod:

(i) bod + wedi + berfenw
Credai fod perthynas y ddau wedi dirywio
He believed that the two’s relationship had deteriorated
 
Gwn ei fod wedi cau’r siop am y prynhawn
I know that he has closed the shop for the afternoon

 

Gall y cymal gael ei gyflwyno gan gobeithio:
Gobeithio bod y plant yn hoffi’r canu.
Gobeithio y bydd y plant yn hoffi’r canu.
Gobeithio bod y plant wedi hoffi’r canu.

 

(ii) i + goddrych + berfenw
Roeddwn yn synnu ichi wneud y fath annibendod
= Roeddwn yn synnu eich bod wedi gwneud y fath annibendod
I was amazed that you had made such a mess
 
Honnaf imi gyflawni'r gwaith yn foddhaol
= Honnaf fy mod wedi cyflawni’r gwaith yn foddhaol

I maintain that I completed the work satisfactorily

 

Yng Nghymraeg gogledd Cymru gellir dewis daru (wedi ei dreiglo'n ddaru) o flaen yr arddodiad i:
Credaf ddaru imi gyflawni’r gwaith yn foddhaol
I believe that I completed the work satisfactorily

 

Cymal enwol ailadrodd pwyslais

Pwysleisir y cymalau enwol uchod trwy roi mai o flaen yr elfen y dymunir ei phwysleisio yn y cymal enwol:
Credai mai gweithio yn Aberdâr yr oedd bellach
He believed that it was working in Aberdâr he was now
 
Roedd yn honni mai yn y gogledd roedd hapusaf
He maintained that it was in the north he was happiest
 
Fe ddeallodd mai John oedd wrth y drws
He understood that it was John who was at the door

 

Yng Nghymraeg y de, gall taw ddigwydd yn hytrach na mai:
Fe ddeallodd taw John oedd wrth y drws

 

 

Negyddu'r cymal enwol

(i) Sylweddolir traethiedydd y cymal enwol gan ferf rediadol.
Ceir na(d) o flaen y ferf mewn cymal enwol negyddol. Ceir na o flaen cytsain, nad o flaen llafariad. Dilynir na gan dreiglad llaes o c, p, t, a threiglad meddal o g, b, d, m, ll, rh:

Gwn nad yw ei wraig yn gweithio yn Llundain
I know that his wife is not working in London
Dywedodd nad oedd am wastraffu amser
He said that he did not wish to waste time

(ii) Mewn cymal pwyslais negyddol disodlir mai gan nad:

 

Roedd wedi honni nad yno yr oedd hapusaf
He had maintained that it was not there he was happiest
Dywedodd nad sicrhau tegwch i bawb oedd ei amcan
He said that ensuring fairness for all was not his aim

(iv) Gellir dewis heb yn safle'r ategydd yn y cymal enwol negyddol:

Clywais fod y car heb ei werthu
= Clywais nad oedd y car wedi ei werthu
I heard that the car has not been sold
Credaf eu bod heb benderfynu
= Credaf nad ydynt wedi penderfynu
I believe that they have not decided

Y mae cwestiynau anuniongyrchol yn gymalau enwol:

Hola'r awdur pam y dylem ddarllen nofelau cyfoes
The author asks why we should read contemporary novels
Ni wyddwn i ble i droi
I didn’t know where to turn
Dwy' ddim yn gwybod sut y dois i yma
I don’t know how I got here