Dod

MODD MYNEGOL

Mewn cywair ffurfiol mae rhediad dod yn seiliedig ar y bôn deu- :

Diflannodd -t o derfyniad 3ydd lluosog pob berf ac arddodiad rhediadol mewn cyfnod cynnar a datblygodd y rhagenwau ôl hwy, hwythau yn nhw, nhwythau. Ni chlywir -t mewn llafar bob dydd ond un o nodweddion yr iaith lenyddol safonol yw sylweddoli -t yn nherfyniad y 3ydd lluosog.

Amser Presennol Amser Amherffaith
Un. Llu. Un. Llu.
deuaf deuwn deuwn deuem
deui deuwch deuit deuech
daw deuant deuai deuent
Amhersonol: deuir Amhersonol: deuid

 

Ceir ffurfiau talfyredig, yn ogystal, yn yr iaith ysgrifenedig sy'n ymdebygu i ffurfiau a ddigwydd ar lafar yn enwedig yn llafar gogledd Cymru:

Un.
Llu.
Un.
Llu.
dof
down
down
doem
doi
dowch, dewch
doit
doech
daw
dônt
dôi
doen
Amhersonol: doir
Amhersonol: doed

Ar lafar ac mewn ysgrifennu anffurfiol gellir sylweddoli -m yn 1af lluosog pob un o amserau'r ferf gan -n .

 

Diflannodd -t o derfyniad 3ydd lluosog pob berf ac arddodiad rhediadol mewn cyfnod cynnar a datblygodd y rhagenwau ôl hwy, hwythau yn nhw, nhwythau. Ni chlywir -t mewn llafar bob dydd ond un o nodweddion yr iaith lenyddol safonol yw sylweddoli -t yn nherfyniad y 3ydd lluosog.

Mae -f yn colli mewn ysgrifennu anffurfiol ac yn aml ar lafar.

Yn y tafodieithoedd ac mewn ysgrifennu sy'n adlewyrchu arferion llafar ceir bonau yn -l, -s-, -th- ar gyfer amherffaith mynegol dod:

delen, desen, dethen am ‘deuwn’
delet, desen, dethen am ‘deuit’
dele, dese, dethe am ‘deuai’
delen, desen, dethen am ‘deuem’
delech, delech, dethech, am ‘deuech’
delen, desen, dethen am ‘deuent’

 

Amser Gorffennol

Un.
Llu.
deuthum
daethom
daethost
daethoch
daeth
daethant
Amhersonol: daethpwyd

Ar lafar gellir dewis des yn y cyntaf unigol; gellir dest yn yr 2il berson unigol. Digwydd y ffurfiau hyn yn ogystal yn yr iaith ysgrifenedig ac eithrio mewn cywair tra ffurfiol. Ceir hefyd dois = des, doist = dest. Ar lafar ceir bonau yn -l-, -s-, -th-, er enghraifft:

delon, deson, dethon am ‘daethom’
deloch, desoch, dethoch am ‘gwnaethoch’
delon, delon, dethon am ‘daethant’

Amser Gorberffaith

Un.
Llu.
daethwn
daethem
daethit
daethech
daethai
daethent
Un. daethid

 

MODD DIBYNNOL

Amser Presennol
Amser Amherffaith
Un.
Llu.
Un.
Llu.
delwyf
delom
delwn
delem
delych
deloch
delit
delech
dêl, delo
delont
delai
delent
Amhersonol: deler
Amhersonol: delid

 

MODD GORCHMYNNOL

Un.
Llu.
1)---
deuwn, down
2) tyr (e) d
deuwch, dowch, dewch
3) deued, doed, deled
deuent, doent, delent
Amhersonol: deuer, doer, deler
Berfenw dyfod, dod, dywad (dwad taf.)
Ansoddair berfol dyfodol

Yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y de ceir dere yn yr 2il unigol.

Enghreifftiau:

 

Wyt ti'n meddwl y down ni drwy hyn? Do you believe that we will come through this?
Daethai ag agwedd gadarnhaol i’r trafod He had brought a positive attitude to the discussion
Dowch at y drws Come to the door
A ffordd deson ni nôl gartre? And how did we return home?
Cethe hi’r clod i gyd
She would have the all the praise
Dewch â photel
Bring a bottle