Yr arddodiad 'wrth'

Mae rhai arddodiaid yn rhedeg i ddynodi person a rhif. Mae 'wrth' yn un ohonyn nhw. Dyma ffurfiau rhediadol 'wrth':

Rhediad Wrth

wrthyf i from me wrthyn ni from us
wrthyt ti from you wrthych chi from you
wrtho fe from him wrthyn nhw from them
wrthi hi from her    

 

Mae rhai ffurfiau berfol yn cael eu dilyn gan wrth:

Adrodd wrth [to relate to]
Adroddodd e'r stori wrthi hi He related the story to her
Cyfaddef wrth [to admit to] Cyfaddefodd y cwbl wrth yr heddlu He admitted everything to the police
Dweud wrth [to say, to tell] Ddwedodd e wrthych chi? Did he tell you?
Glynu wrth [to stick to] Mae e'n glynu wrth ei stori He is sticking to his story

Mae rhai ansoddeiriau'n cael eu dilyn gan wrth:

cas wrth [nasty to]
Paid â bod yn gas wrthyf Don't be nasty to me
caredig wrth [kind to] Mae hi'n garedig wrth bawb She is kind to everyone
creulon wrth [cruel to] Mae e'n greulon wrthynt He is cruel to them
dig wrth [angry with Wyt ti'n ddig wrtho o hyd? Are you still angry with him?
Glynu wrth [to stick to] Mae e'n glynu wrth ei stori He is sticking to his story

 

Enghreifftiau

Ydych chi wedi dweud wrthi hi eto? Have you told her yet?
Dwy i ddim wedi cyfaddef wrthyn nhw I haven't admitted to them
Mae pawb wedi digio wrtho fe Everyone is annoyed with him
Mae rhaid iddi hi adrodd y hanes wrthym ni She has to tell us the story

 

Sylwch ar y dywediadau hyn sy'n cynnwys 'wrth'

dweud y drefn wrth to scold, to tell off
wrth droed oar the bottom of, at the foot of
wrth ei bwysau at a leisurely pace
wrth ei waith at his work
wrth fodd over the moon, in [one's] element, delighted
wrth gefn in reserve, on hand
wrth gwrs of course
wrth law to hand, convenient
wrth natur by nature
wrth [fy] hun[an] by myself
wrth y llyw at the helm