Dyma fersiwn ddiweddaraf Geiriadur Ar-lein Cymraeg-Saesneg Saesneg-Cymraeg, Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Hyderwn yn fawr y byddwch yn manteisio'n llawn ar y Geiriadur ar ei newydd wedd. Ond teimlwn y byddai o fudd ichi ddarllen y cyfarwyddiadau isod cyn troi at y Geiriadur.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf datblygodd y geiriadur yn chwiliadur grymus. Mae'n cynnwys dros 250 000 o brif eiriau ac yn porthi dros 300 000 o chwiliadau llwyddiannus yn fisol. Yn sgil hynny, bu rhaid gwneud rhai newidiadau bychain er mwyn gwneud y chwiliadur fymryn yn fwy effeithiol.

Defnyddio'r Geiriadur yn Greadigol
1) Noder y ffurf yr hoffech gael cyfieithiad ohoni dan "Chwilair".
2) Mae'r Geiriadur yn disgwyl ichi gynnig y ffurf Gymraeg a chwilio am y ffurf gyfatebol yn Saesneg. Ond os ydych am gynnig y ffurf Saesneg i'r "Chwilair", rhaid newid y blwch "Dewiswch" i "Saesneg-Cymraeg". Wedyn chwilir am y ffurf Gymraeg gyfatebol.
3) Os ydych yn gwybod pa ran ymadrodd rydych chi'n chwilio amdani'n benodol e.e. enw neu ferf, gallech ddewis y rhan ymadrodd priodol o'r rhestr a ddarperir. Ond os ydych yn ansicr, gadewch i'r chwilair chwilio "Popeth".
4) Penderfynwch a ydych am chwilio am un gair/ffurf yn unig. Gan amlaf, bydd y chwilio'n fwy ffrwythlon pe baech yn dynodi eich bod yn chwilio am 'elfen mewn ffurf neu ymadrodd'. Er enghraifft, byddai chwilio am "ger" dan 'elfen mewn ffurf neu ymadrodd' yn rhoi cynhaeaf ffrwythlon; byddai chwilo am "aml" dan 'elfen mewn ffurf', yn cynnig llu mawr of ffurfiau y gellid eu hystyied. Mae chwilio am "aml" dan 'ffurf gyfan' yn cynnig un ffurf yn unig.

MAE'R GEIRIADUR YN ADNODD ENFAWR A PHETAECH YN DIGWYDD CHWILIO AM FFURF A ALLAI YSGOGI NIFER SYLWEDDOL IAWN O GANLYNIADAU, GALLAI'R CANLYNIADAU FOD YN ANFODDHAOL. Awgrymir, felly, os ydych am chwilio dan 'Rhan o air', eich bod yn cynnwys cynifer o lythrennau â phosibl - neu'n cyfyngu'r chwiliad i ran ymadrodd arbennig - a rheoli'r chwiliad.
5) Clicier ar Chwiliwch a dangosir y canlyniadau ar sgrîn newydd sydd hefyd yn cynnig cyfle ichi barhau i chwilio'r geiriadur.

Gellir clicio ar bob ffurf a nodir yn y canlyniadau i ddechrau chwilio eto; gallai hyn roi syniad o'r cysyniadau a'r cysylltiadau sydd ynghlwm wrth ffurf arbennig.

Pan ddangosir icon 'corn siarad' gellir clicio arno a chlywed cynaniad safonol o'r ffurf honno.

Pan welwch "Nodyn Gramadegol" gellir clicio arno a chael rhagor o wybodaeth am y ffurf arbennig honno.

Dangosir pob ffurf rydych wedi chwilio'r Geiriadur amdanynt yn ystod y sesiwn holi a gellwch ddychwelyd atynt eto os bydd angen.

Cymorth Pellach

Nid yw Geiriaduron yn cynnwys ffurfiau lluosog yn brifeiriau gan amlaf. Bydd eich cais yn debycach o lwyddo petaech yn chwilio am ffurff unigol dan Chwilair

Nid yw Geiriaduron yn cynnwys ffurfiau rhediadol. Bydd eich cais yn debycach o lwyddo petaech yn chwilio am ferfau dan Chwilair


Os bu'r chwilio'n ddiffrwyth, gwnewch yn sicr eich bod wedi gwneud y dewisiadau cywir yn y blychau priodol. Os gwelwch ddiffygion yn y Geiriadur, rhowch wybod inni trwy nodi hynny ar y dudalen ganlyniadau a gallwn ystyried llanw'r bwlch.

Byddem yn gwerthfawogi eich sylwadau ar y Geiriadur.

Byrfoddau
adj Ansoddair
adv Adferf
cmb Cyfuniad
conj Cysylltair
f Benywaidd
m Gwrywaidd
n Enw
pl Lluosog
prep Arddodiad
v Berf

Y GEIRIADUR DIGIDOL

Ni all y sgolor gorau - alw gair
'Nôl i gof ar brydiau,
Ond un cof nad yw'n nacáu
Yw gwe'r ystyron geiriau
Y Prifardd Idris Reynolds

Rydym am ddiolch i Phil Chapman BA am bob cyfraniad i'r Geiriadur hwn.

Er mwyn i ni allu parhau i wella'r geiriadur byddai'n ddefnyddiol i ni gael y wybodaeth isod am ein defnyddwyr
A ydych yn gweithio i gorff sy'n gwneud elw?
Neu
A ydych yn gweithio i gorff sydd ddim yn gwneud elw?
Diolch yn fawr